Ionawr 2013: Eira yn Nhalgarreg

  • Ionawr 24, 2013 - cerysjones

Bu prosiect Eira Ddoe yn y niwl am rai dyddiau gan i eira a gwyntoedd cryfion greu lluwchfeydd ac amodau gyrru gwael. Un o’r ardaloedd lle y bu eira oedd Talgarreg, Llandysul. Er i’r rhagolygon tywydd fod yn weddol gywir, daeth cwymp sydyn o eira ar nos Lun 14eg Ionawr ac Iau 17eg yn dipyn o sioc. Fodd bynnag, cwympodd yr eira trymaf ar ddydd Gwener 18fed, a bu gwyntoedd cryfion hefyd. Glynodd yr eira ar y ffenestri gan ei gwneud hi’n anodd gweld tu allan ac i deimlo’n ynysig iawn. Ar fferm Clettwr, chwythwyd eira i mewn i’r siediau wyna; o dan y drysau a thrwy dyllau yn y wal. Erbyn iddi nosi fe orchuddiwyd l^on y fferm, sy’n dringo ochr dyffryn Clettwr, gan luwchfeydd; rhai oedd yn ormod o faint i’r 4×4 eu trechu (gweler y llun isod am luwch ar ochr y l^on fferm). Caewyd yr hewlydd maint B cyfagos o Synod Inn i Lanybydder ac o Synod Inn i Ffostrasol yn ogystal, tan i swch eira (snowplough) eu clirio’r bore wedyn.

Ar ddydd Iau 24ain Ionawr, wrth i’r blog hwn gael ei ysgrifennu, mae’r hewlydd maint A a B ar agor ac yn glir, er bod dal angen gofal wrth yrru ar hyd yr heol maint C a’r l^on fferm i lawr i Clettwr. Gadewir y car ar ddiwedd y l^on fferm; er y byddai modd ei yrru i lawr y llethr, mae’n bosib na ddaw n^ol lan! O ganlyniad, mae’n rhaid cerdded y daith i ac o’r car ddwywaith y dydd mewn esgidiau cerdded a dillad cynnes. Er ymddengys hyn yn anghyfleustra, rhoddir atgofion o Clettwr yn ystod gaeaf 1962/63 y sefyllfa hon yn ei chyd-destun (darllenwch ‘Arbenigwr rhif 2’ yma). Nodwch nad yw Clettwr yn godro mwyach, felly nid yw gwastraffu llaeth yn broblem.

Ddoe (Mercher 23ain Ionawr), bu’n bwrw eira’n drwm dros dde-orllewin Cymru ac, er y caewyd ysgol Dyffryn Teifi (Llandysul) ac y mae’n parhau i fod ar gau heddiw (24/1/2013), ni ychwanegwyd gormod o drwch i’r eira yn Nhalgarreg. Ni rybuddiwy yr ardal am eira ac, fel y bu cyflwynwyr tywydd y teledu a’r radio yn ein hatgoffa trwy gydol ddoe, “y mae eira’n beth anodd iawn i’w ragweld”.

 

Datblygiad Perfformiad – Rhan I

  • Tachwedd 22, 2012 - cerysjones

Seiliwyd datblygiad y perfformiad at y Warplands toolkit (mae rhan 3c yn berthnasol iawn); ‘toolkit’ a ddaeth o brosiect Warplands Cyd-Ymchwilydd Eira Ddoe, sef Yr Athro Mike Pearson.

O fewn y ‘Toolkit’ ceir cyfarwyddyd i ddewis pwnc hunangofiannol gydag arwyddocâd personol, gan ddefnyddio profiadau personol a’r cofnod hanesyddol, gan gynnwys gwahanol fathau o ddogfennau: llythyron; storïau ac yn y blaen.

Gwahoddwyd y prosiect i sôn am eu perfformiad yn nigwyddiad ‘Making it Real’ Active Ingredient yn Llundain ar yr 20fed o Dachwedd 2012. Felly, gan bod hwn yn broses bersonol iawn, dyma ddetholiad cafodd ei ysgrifennu gan y perfformwyr ar eu syniadau hyd at y cyfarfod hwnnw…

 

Mae’n debyg…

Deuawd fydd hon rhwng brawd a chwaer, Roger Owen ac Eddie Ladd (ei henw iawn yw Gwenith Owen). Plant ffarm ydyn’ nhw ac felly mae’n debyg y bydd y ddeuawd yn canolbwyntio ar brofiad cefn gwlad o dywydd eithafol. Meddwl tipyn am oroesi a dyfalbarhau a wnaeth y ddau; mae’n debyg y bydd y gwaith yn para cryn amser, er nad ydynt wedi ystyried goblygiadau’r syniad ar hyn o bryd! Beth yw “amser hir”? Ai dwy awr? Dau ddiwrnod? Pythefnos? Deufis? Eu cred yw fod yn rhaid gadael i’r hinsawdd adael ei ôl ar y perfformiad – rhaid gallu ystyried newid y tywydd a newid “tywydd y corff” fel petai hefyd. Byddai perfformiad theatr traddodiadol yn ceisio cyfyngu amser y cyflwyniad, ac i raddau, byddai’n creu delweddau, symbolau a throsiadau er mwyn cyfleu’r profiad. Efallai y gellid gwneud hyn yn eu perfformiad ta beth! Ond hoffent adael i newidiadau go iawn ddigwydd hefyd. Wrth redeg marathon er enghraifft, mae’r corff yn profi newidiadau ffisiolegol wedi iddo fod wrthi am 16 milltir (dyma’r cyfnod lle mae’r athletwr yn medru cwrdd â’r “wal”, pan mae stôr glycogen y corff wedi ei wacau). Y dasg i’r perfformwyr fyddai gadael i bethau go iawn ddigwydd ac i ystyried effaith blinder, syched, oerfel, gwlyborwch, gwres (a gorffwys!) ar y corff. Yn ogystal mae yna brofiadau seicolegol nad ydynt efallai wedi cael eu pwyso a’u mesur hyd yn hyn. Mae un o’r dyddiaduron er enghraifft yn sôn am wraig yn aros am oriau ar eu hyd yn ystod y dydd tra fo’r gŵr i ffwrdd ar lethrau’r mynydd yn datgladdu defaid yn ystod cyfnod o eira (yn 1947). Mae’n sôn am lwydni’r dyddiau a bod yn unig; yn waeth, nid oes yna ddim i’w neud, gan na ellir gweithio fawr ar glos y ffarm neu’r meysydd agos.

Dyma restr o adnoddau y gellid eu defnyddio yn ystod y cyflwyniad:

Pridd

Gwair (bêls)

Gwellt (bêls)

Picwarchau

Llafur

Tato

Sŵets

 

Siwgir

Llaeth

Braster

Bacwn

Bara

Te

 

Calch

Hypoclorid

Gwlân

Gwaed

 

Efallai y gellir perfformio’r gwaith mewn:

Sied wair (“Dutch barn”)

Swyddfeydd yn yr adran theatr yn Adeilad Parry-Williams

Set arbennig sawl stafell

Cyfres o ystafelloedd a neuaddau ar wahân i’w gilydd

Capel a’i festri

*********************************************************************************************

 

Un o’r ‘Timestreams’ fe’u dangoswyd yn nigwyddiad Making it Real.

Y mae pob ‘balwn’ wedi’i gysylltu i synhwyryddion sy’n mesur lefelau sain a charbon deuocsid; y mae’r balwnau yn chwyddo neu’n dadchwyddo yn ôl y swn a’r CO2 sydd yn cael ei fesur gan y synhwyryddion.

Cyfarfod ‘Digital Transformations’ yr AHRC

  • Tachwedd 22, 2012 - cerysjones

Ar ddiwrnod go llwyd yn Llundain, roedd prosiect Eira Ddoe yn bresennol yn yr ‘AHRC Digital Transformations Moot‘ (19/11/2012, Mermaid Centre)… ac roedd gennym yr olygfa orau o bawb!

Yn ogystal â chael stondin, oedd yn codi ymwybyddiaeth o’r project ymysg ymwelwyr y Moot, fe siaradodd Prif Ymchwilydd (Yr Athro Lorna Hughes) ac Arbenigwr Gwyddor Hinsawdd (Dr Philip Brohan) Eira Ddoe yn sesiwn ‘Seeing a Storm of Data’, ynghyd ag Yr Athro Howard Watson (University of Oxford).

Roedd sgwrs Philip Brohan o ddiddordeb arbennig o ran tywydd eithafol, gan iddo gynnwys adluniad o dywydd gaeafol Ionawr i Mawrth 1947, sydd ar gael i’w weld yma.

 

Lleoliad prosiect Eira Ddoe yn yr AHRC Digital Transformation Moot:

Rhannu eich Atgofion o Dywydd Eithafol

  • Hydref 29, 2012 - cerysjones

Os hoffech rannu eich atgofion o dywydd eithafol, ewch i Rhyngweithio Cymunedol i ddefnyddio’n ffurflen gyfrannu.

Mae tudalennau o almanaciau, dyddiaduron a llawysgrifau eraill sydd wedi’u digido o archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gael ar Flickr NAWR! (gweler ochr dde eich sgrin) Trafodir rhai uchafbwyntiau yn Ffynonellau Tywydd Hanesyddol, ac ychwanegir ato’n aml.

Eira 1947 ger Corwen: cerdded ar ben yr Austin 7

  • Hydref 29, 2012 - cerysjones

Cyfraniad drwy lythyr:

 

Cofiaf aeaf 1947 yn dda iawn pan oeddwn yn byw ym Mryneglwys, ger Corwen ac yn methu â mynd i’r ysgol uwchradd yn Rhuthun am 8 wythnos oherwydd trwch yr eira.

 

Yn y dyddiau hynny, roedd Bryneglwys a Bwlchgwyn wastad yn cael sylw yn y newyddion am fod yn ddau le cyntaf i gael eu hynysu gan eira a rhew, ac felly y bu ym 1940 a 1947. Roedd fy nhad wedi bod i rywle yn ei gar bach Austin 7 yn ystod diwrnod cyntaf yr eira mawr, a method a’i yrru nôl i fyny’r allt i’n tŷ ni ac felly bu raid iddo ei adael yng ngwaelod y ffordd, ac yn y fan honno y bu am y ddau fis y parhaodd yr heth. Cofiaf i ni, blant, unwaith yr oedd y lluwchfeydd wedi rhewi’n gorn, gael caniatad ‘nhad i gerdded i waelod y ffordd (tua chwarter milltir) a sylweddoli ein bod yn cerdded uwchben y car bach ac ar ben y gwrychoedd heb unrhyw beryg y byddem yn suddo gan mor galed oedd y rhew. Roedd yr un peth yn wir am y llyn hwyaid wrth y tŷ lle cawsom lawer o hwyl yn sglefrio.

 

Ond ‘doedd yr holl brofiad yn fawr o hwyl i mam, druan, a oedd yn gorfod coginio ar dân agored yn yr ystafell fwyta yn lle’r popty arferol yn y gegin am fod y pibellau dŵr cysylltiedig wedi rhewi, a ‘nhad yn gorfod cario dŵr o’r nant gyfagos, nid yn unig i’n teulu ni o chwech ond hefyd i’r gwartheg a’r moch ar y fferm. Cofiaf ein bod wedi methu â gwneud menyn yn y fuddai fawr oherwydd y rhewi cyson, ac ar waethaf ymdrechion pob un ohonom i droi’r fuddai am oriau.

 

Bu ‘nhad, ynghŷd â sawl dyn arall o’r pentref, yn cerdded i Gorwen, saith milltir i ffwrdd, sawl gwaith i brynu bara i bawb oedd ei angen; bu’r eira mawr yn fodd i gymuned gyfan glosio at ei gilydd a gwerthfawrogi ymdrech a chymwynasgarwch y dynion.

Eira Hudol 1962/63

  • Hydref 8, 2012 - cerysjones

Wedi’i dderbyn drwy e-bost:

The extreme weather I remember was in, I think, 1962. I was living in Pembrokeshire, on the coast where we rarely had snow that stuck. But this particular Winter  I woke to find everything covered in depths of snow. Our house was situated on a back lane in the village and the snow was level with the hedgerows. It has been funnelled in with the wind. I remember walking or rather scrambling to the Post office sinking up to my shoulders in snow. It was magical…No school for a week and our lane wasn’t passable for vehicles for quite a few weeks after that.

 

Darllenwch ragor o atgofion am aeaf 1962/63 o Geredigion yma ac o Sir Gâr yma.

Gwefannau defnyddiol eraill ar gyfer Tywydd Eithafol

  • Medi 14, 2012 - cerysjones

Yn ogystal â chyfraniadau i’r blog, caiff prosiect Eira Ddoe ei ysbrydoli gan wefannau eraill gall fod o ddiddordeb i bawb sy’n ymddiddori yn nhywydd eithafol:

 

Tywyddiadur Llen Natur, lle gellir chwilio am gofnodion o’r tywydd yn ôl dyddiad.

Y Dyffryn Maes y Gad i Lles y Wlad, sef stori ddigidol gan Bryn Hughes, ffermwr o ddyffryn Aeron (Ceredigion), sy’n cynnwys ei atgofion am yr eira yn 1947.

Ffilm liw o Eira Mawr 1947 yn Archif Sgrin a Sain Cymru, sy’n dangos tractor/tractor eira a gwirfoddolwyr yn clirio’r eira yn Llanwddyn. Fe wnaeth hi fwrw eira yn Llanwddyn am gyfnod o 9 wythnos. Gwelir hefyd eira yn Drenewydd. Y ffotograffydd oedd Geoff Charles.

Lluniau Casgliad y Werin Cymru o eira, gan gynnwys gaeafau 1962/63 ac 1981/82.

Ffilm British Pathe o ddifrod storm yn Aberystwyth yn 1938.

Ffotograffiaeth gan John Mason ofAberystwyth o gymylau duon, glaw a llifogydd, tywydd gaeafol, a golygfeydd amryliw o’r awyr.

 

O du allan i Gymru, mae’r canlynol o ddiddordeb mawr:

The Weather Memory bank, sydd â chlipiau fideo o bobl yn Reading yn ateb cwestiynau penodol am y tywydd.

Flood Memories blog i‘r Hafren, sy’n bennaf yn son am lifogydd Tewkesbury floods yn 2007.

The British Hydrological Society’s Chronology of British Hydrological Events. Chwiliwch y gronfa ddata yn ôl dyddiad ac/neu dalgylch afon yn y Deyrnas Gyfunol.

 

Os yw’r lluniau, fideos neu gofnodion ysgrifenedig hyn yn canu cloch, beth am rannu eich atgofion chwithau o dywydd eithafol tebyg yma nawr gan ddefnyddio’n ffurflen gyfrannu.

Atgof plentyn 1962-63

  • Medi 10, 2012 - guest

Car llusg pren yn anrheg Nadolig, ac eira y diwrnod wedyn. Ryw 4 milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin, lle roedd yr heolydd cul rhwng banciau uchel a wedyn perthi ar ben y banciau. Wrth i’r eira lluwchio fe lanwyd yr heolydd bron i ben y perthi. Roedd y car llusg yn mynd yn bert i lawr tyle serth, a dim perygl o gar neu dractor yn dod i gwrdd â ti.
Sawl wythnos wedyn, pan oedd yr heol fawr wedi’i chlirio, fe gerddais i (9 oed) gyda mam a’r car llusg i fewn i’r dre i brynu bwyd. Erbyn hyn roedd y rhewgell yn wag. Cerdded i lawr yn iawn, ond tynnu’r peth yn ôl, gyda’r holl bwysau newydd, a tuag at lan bob cam, yn araf iawn.
Cathi McGill

Darogan y Tywydd

  • Medi 10, 2012 - cerysjones

Y mae gwaith Swyddfa Dywydd y DG yn sicrhau’r rhagolygon tywydd cywiraf posib, ac mae datblygiadau technolegol yn golygu ein bod yn medru gweld y rhagolygon hyn ar unrhyw adeg o’r dydd neu nos. Ond cyn sefydliad y Swyddfa Dywydd (1854, pan sefydlwyd adran arbrofol o’r llywodraeth a ddatblygodd i fod y ‘Met. Office) a rhagolygon tywydd yn y wasg (1af o Awst 1861 oedd y rhifyn cyntaf o The Times i gynnwys rhagolwg tywydd), beth oedd pobl yn ei wneud? Sut oedden nhw’n paratoi a chynllunio ar gyfer tywydd yfory?

Y mae Almanaciau’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth a chymorth i’w darllenwyr ar bopeth sy’n ymwneud â meteoroleg. O fewn y cloriau ceir rhestrau o arwyddion meteorolegol; arwyddion o beth sydd i ddod. Ceir rhestrau yn y tudalennau isod o dan y penawdau ‘Arwyddion o Dywydd Teg’, ‘Arwyddion o Wlaw’ ac ‘Arwyddion o Wynt a Thymhestl’. Mae rhai’n gyfarwydd; “4. Pan fyddo’r Haul yn machlud yn goch, tywydd teg neu rew” sy’n debyg i’r dywediad Saesneg poblogaidd ‘Red Sky at Night, Shepherd’s Delight’. Nid yw eraill mor adnabyddus; mae “14. Piod yn ‘sgrechen.”, “23. Clêr a gwybed yn flinedig” a “27. […] Gwyniau yn aelodau hen bobl [… a] Cyrn ar fysedd traed […]” yn arwyddion o law. Y mae arwyddion o dywydd tymhestlog yn cynnwys “8. Tân yn llosgi’n dywyll yn dywyll ac yn hisian”, “9. Cigfrain yn clapio eu hadenydd” a “11. Moch yn llefain yn fwy nag arferol”.

Arwyddion Tywydd o Almanac John Harries (Caerfyrddin) am y flwyddyn 1791, o Lyfrgell Genedlaethol Cymru (gweler yr almanac lawn ar: http://www.flickr.com/photos/snowsofyesteryear/sets/72157631001153272/with/7752526604/).

Hyd yn oed â gallu technolegol ym maes rhagolygon tywydd, ydyn ni dal i ddefnyddio ‘arwyddion’ am y tywydd? Ydyn ni dal yn rhoi cipolwg ar ba mor llachar yw’r sêr (arwydd o rew), pa mor gyflym mae’r cymylau’n symud (arwydd o wynt) neu pa mor brysur yw’r corynod (arwydd o law)? Yn yr un modd, ai’r dyn tywydd sy’n dweud wrthym am gyfnod o dywydd eithafol, neu ydyn ni dal i ddefnyddio arwyddion? Mae’n siwr ein bod ni gyd yn gwybod am wlybaniaeth eithafol haf 2012 cyn i’r Swyddfa Dywydd ei gyhoeddi’n swyddogol  (http://www.metoffice.gov.uk/news/releases/archive/2012/second-wettest-summer)… ond sut? Beth oedd yr arwyddion?

Fe sylwais i ar sut roedd fy ngot law yn dod gyda mi i bob man, y ffaith ‘mod i braidd wedi gorfod rhoi dŵr i’r ardd, a bod gymaint o ddigwyddiadau’r haf wedi gorfod cael eu gohirio – o rasys ceffylau i sioeau amaethyddol. Gwnes i ddim, fodd bynnag, sylwi ar unrhyw arwyddion o law Almanac 1791!

Sut oeddech chi‘n gwybod eich bod yn profi’r haf gwlypaf ers 1912?

 

Gaeaf caled 1962/63

  • Awst 31, 2012 - cerysjones

Canodd y ffôn symudol a’r geiriau “Unknown number” yn fflachio. Gall fod yn werthwr yswiriant, gall bod yn berson yn gofyn “had I been mis-sold PPI?”, ond na – ymchwilydd o Radio Cymru oedd ar ben arall y ffôn. Gofynnodd y llais caredig os byddem yn fodlon siarad ar raglen Nia am dywydd 1962. Cytunais yn syth; rwyf wedi dysgu i beidio â gwrthod cynigion o’r wasg.

Ond, beth oeddwn i’n ei wybod am dywydd 1962 pan roedd Mam ond wedi’i geni blwyddyn ynghynt?! Roedden nhw am glywed safbwynt Cymreig ac roedd y we yn dda i ddim. Roedd gen i ond atgof Jenny Ogwen fel man cychwyn. Dyma fy nhro i i wneud galwadau ffôn… i ofyn yr arbenigwyr.

Arbenigwr rhif 1: Tad-cu. Oed yn 1962: 26

Roedd yn cofio iddi ddechrau bwrw eira yn Rhagfyr 1962 ac aros tan ganol mis Mawrth 1963. Gan iddo fyw yn Llanybydder (Sir Gaerfyrddin) ar y pryd, sy’n bentref go fawr, cofiodd pa mor anodd oedd hi i deithio; roedd y bysys a’r ceir “ar stop”. Roedd e hefyd yn gweithio ‘yn y forestry’, ac yn cofio bod mor oer fel y bu rhaid iddo wisgo dwy got. Daeth hyn yn bach o sioc wedi haf cynnes 1962! Y flwyddyn ganlynol, gadawodd y ‘forestry’ a mynd i weithio i fasnachwr coed. ‘Sdim amau bod gaeaf 1962/63 wedi bod yn rhan o’i benderfyniad i newid ei broffesiwn.

 

Arbenigwr rhif 2: Tad-yng-nghyfraith. Oed yn 1962: 28

Mae fy nhad-yng-nghyfraith yn ffarmwr; wedi ei eni a’i fagu yn Nhalgarreg (Ceredigion) ar waelodion dyffryn Clettwr. Gaeaf 1962/63 yw’r gwaethaf mae’n ei gofio. Parhaodd o ŵyl San Steffan 1962 i ddechrau mis Mawrth. “Roedd yn bwrw sgiten [o eira] a’n lluwchio fel o’dd e’n dod [h.y. wrth gwympo]. Roedd hefyd rhew pob dydd a gwynt oer o’r Dwyrain. O ganlyniad, rhewodd eu cyflenwad dŵr. Roedd hi mor oer fel bod y beipen oedd yn mynd â dŵr o dan ddaear i’r tai mas wedi rhewi. Roedd hyn yn broblem ddifrifol i ffarmwr gan fod ddim dŵr i roi i’r da [gwartheg].

Doedd ddim modd iddyn nhw ‘chwaith i deithio ar lôn y ffarm; problem arall i ffarmwr â da godro achos ni allant fynd â’r llaeth i’r stand laeth i gwrdd â’r tancer yn ddyddiol. Golyga hyn golled ariannol ac – yn waeth i Gardi – gwastraff llaeth. Gan nad oedd modd gyrru i fyny dyffryn Clettwr ar yr hewl, yr unig opsiwn oedd mynd ar ei draws. Rhoesant y stenau llaeth [churns] yn y bocs ar gefn y tractor a theithio ar draws y dyffryn; ar draws caeau tuag at bentref Talgarreg. Yno, cwrddasant â’r tancer laeth i gasglu’r stenau yn gyfnewid am stenau gwag, yn barod go gyfer â llaeth yfory. Ond yn gyntaf, roedd ganddynt swydd arall; llanwasant y stenau â dŵr o’r pentref a dychwelyd i’r ffarm i roi dŵr i’r creaduriaid. Gwnaethant hyn bob dydd am tua deng wythnos tan, o’r diwedd, ar y 10fed o Fawrth 1963, roedd modd iddynt fynd â’r stenau i fyny lôn y ffarm i’r stand laeth unwaith yn rhagor, y tro cyntaf ers gŵyl San Steffan 1962.

‘Roedd hi’n aeaf hir, oer. A doedd ganddyn nhw ddim ‘cab’ ar y tractor i’w hamddiffyn rhag yr elfennau. Ond mae e’n cofio mai, rhyw ffordd, y diwrnod oeraf oedd y diwrnod gwnaeth hi ddechrau dadlaith [dadmer] a chawod fach o law.

 

Roedd yr arbenigwyr wedi dweud eu dweud, a cheisiais wneud gymaint o gyfiawnder â phosib i’w hatgofion yn ystod y cyfweliad radio (fe’i darlledwyr ar BBC Radio Cymru ar Ŵyl y Banc Awst (27ain), 2012).

Cerys, Cynorthwyydd Ymchwil, Prosiect Eira Ddoe.