Gaeaf caled 1962/63

Canodd y ffôn symudol a’r geiriau “Unknown number” yn fflachio. Gall fod yn werthwr yswiriant, gall bod yn berson yn gofyn “had I been mis-sold PPI?”, ond na – ymchwilydd o Radio Cymru oedd ar ben arall y ffôn. Gofynnodd y llais caredig os byddem yn fodlon siarad ar raglen Nia am dywydd 1962. Cytunais yn syth; rwyf wedi dysgu i beidio â gwrthod cynigion o’r wasg.

Ond, beth oeddwn i’n ei wybod am dywydd 1962 pan roedd Mam ond wedi’i geni blwyddyn ynghynt?! Roedden nhw am glywed safbwynt Cymreig ac roedd y we yn dda i ddim. Roedd gen i ond atgof Jenny Ogwen fel man cychwyn. Dyma fy nhro i i wneud galwadau ffôn… i ofyn yr arbenigwyr.

Arbenigwr rhif 1: Tad-cu. Oed yn 1962: 26

Roedd yn cofio iddi ddechrau bwrw eira yn Rhagfyr 1962 ac aros tan ganol mis Mawrth 1963. Gan iddo fyw yn Llanybydder (Sir Gaerfyrddin) ar y pryd, sy’n bentref go fawr, cofiodd pa mor anodd oedd hi i deithio; roedd y bysys a’r ceir “ar stop”. Roedd e hefyd yn gweithio ‘yn y forestry’, ac yn cofio bod mor oer fel y bu rhaid iddo wisgo dwy got. Daeth hyn yn bach o sioc wedi haf cynnes 1962! Y flwyddyn ganlynol, gadawodd y ‘forestry’ a mynd i weithio i fasnachwr coed. ‘Sdim amau bod gaeaf 1962/63 wedi bod yn rhan o’i benderfyniad i newid ei broffesiwn.

 

Arbenigwr rhif 2: Tad-yng-nghyfraith. Oed yn 1962: 28

Mae fy nhad-yng-nghyfraith yn ffarmwr; wedi ei eni a’i fagu yn Nhalgarreg (Ceredigion) ar waelodion dyffryn Clettwr. Gaeaf 1962/63 yw’r gwaethaf mae’n ei gofio. Parhaodd o ŵyl San Steffan 1962 i ddechrau mis Mawrth. “Roedd yn bwrw sgiten [o eira] a’n lluwchio fel o’dd e’n dod [h.y. wrth gwympo]. Roedd hefyd rhew pob dydd a gwynt oer o’r Dwyrain. O ganlyniad, rhewodd eu cyflenwad dŵr. Roedd hi mor oer fel bod y beipen oedd yn mynd â dŵr o dan ddaear i’r tai mas wedi rhewi. Roedd hyn yn broblem ddifrifol i ffarmwr gan fod ddim dŵr i roi i’r da [gwartheg].

Doedd ddim modd iddyn nhw ‘chwaith i deithio ar lôn y ffarm; problem arall i ffarmwr â da godro achos ni allant fynd â’r llaeth i’r stand laeth i gwrdd â’r tancer yn ddyddiol. Golyga hyn golled ariannol ac – yn waeth i Gardi – gwastraff llaeth. Gan nad oedd modd gyrru i fyny dyffryn Clettwr ar yr hewl, yr unig opsiwn oedd mynd ar ei draws. Rhoesant y stenau llaeth [churns] yn y bocs ar gefn y tractor a theithio ar draws y dyffryn; ar draws caeau tuag at bentref Talgarreg. Yno, cwrddasant â’r tancer laeth i gasglu’r stenau yn gyfnewid am stenau gwag, yn barod go gyfer â llaeth yfory. Ond yn gyntaf, roedd ganddynt swydd arall; llanwasant y stenau â dŵr o’r pentref a dychwelyd i’r ffarm i roi dŵr i’r creaduriaid. Gwnaethant hyn bob dydd am tua deng wythnos tan, o’r diwedd, ar y 10fed o Fawrth 1963, roedd modd iddynt fynd â’r stenau i fyny lôn y ffarm i’r stand laeth unwaith yn rhagor, y tro cyntaf ers gŵyl San Steffan 1962.

‘Roedd hi’n aeaf hir, oer. A doedd ganddyn nhw ddim ‘cab’ ar y tractor i’w hamddiffyn rhag yr elfennau. Ond mae e’n cofio mai, rhyw ffordd, y diwrnod oeraf oedd y diwrnod gwnaeth hi ddechrau dadlaith [dadmer] a chawod fach o law.

 

Roedd yr arbenigwyr wedi dweud eu dweud, a cheisiais wneud gymaint o gyfiawnder â phosib i’w hatgofion yn ystod y cyfweliad radio (fe’i darlledwyr ar BBC Radio Cymru ar Ŵyl y Banc Awst (27ain), 2012).

Cerys, Cynorthwyydd Ymchwil, Prosiect Eira Ddoe.

Sylwadau ar gau.