Eira 1947 ger Corwen: cerdded ar ben yr Austin 7

Cyfraniad drwy lythyr:

 

Cofiaf aeaf 1947 yn dda iawn pan oeddwn yn byw ym Mryneglwys, ger Corwen ac yn methu â mynd i’r ysgol uwchradd yn Rhuthun am 8 wythnos oherwydd trwch yr eira.

 

Yn y dyddiau hynny, roedd Bryneglwys a Bwlchgwyn wastad yn cael sylw yn y newyddion am fod yn ddau le cyntaf i gael eu hynysu gan eira a rhew, ac felly y bu ym 1940 a 1947. Roedd fy nhad wedi bod i rywle yn ei gar bach Austin 7 yn ystod diwrnod cyntaf yr eira mawr, a method a’i yrru nôl i fyny’r allt i’n tŷ ni ac felly bu raid iddo ei adael yng ngwaelod y ffordd, ac yn y fan honno y bu am y ddau fis y parhaodd yr heth. Cofiaf i ni, blant, unwaith yr oedd y lluwchfeydd wedi rhewi’n gorn, gael caniatad ‘nhad i gerdded i waelod y ffordd (tua chwarter milltir) a sylweddoli ein bod yn cerdded uwchben y car bach ac ar ben y gwrychoedd heb unrhyw beryg y byddem yn suddo gan mor galed oedd y rhew. Roedd yr un peth yn wir am y llyn hwyaid wrth y tŷ lle cawsom lawer o hwyl yn sglefrio.

 

Ond ‘doedd yr holl brofiad yn fawr o hwyl i mam, druan, a oedd yn gorfod coginio ar dân agored yn yr ystafell fwyta yn lle’r popty arferol yn y gegin am fod y pibellau dŵr cysylltiedig wedi rhewi, a ‘nhad yn gorfod cario dŵr o’r nant gyfagos, nid yn unig i’n teulu ni o chwech ond hefyd i’r gwartheg a’r moch ar y fferm. Cofiaf ein bod wedi methu â gwneud menyn yn y fuddai fawr oherwydd y rhewi cyson, ac ar waethaf ymdrechion pob un ohonom i droi’r fuddai am oriau.

 

Bu ‘nhad, ynghŷd â sawl dyn arall o’r pentref, yn cerdded i Gorwen, saith milltir i ffwrdd, sawl gwaith i brynu bara i bawb oedd ei angen; bu’r eira mawr yn fodd i gymuned gyfan glosio at ei gilydd a gwerthfawrogi ymdrech a chymwynasgarwch y dynion.

Sylwadau ar gau.