Ffynonellau Tywydd Hanesyddol

Arweiniodd prosiect Eira Ddoe at ddigido dros 3,500 o dudalennau o ddeunydd llawysgrif a phrint o gasgliadau archifol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cymrwch olwg ar sut y dylanwadodd y tywydd ar waith pob awdur, gan ysbrydoli adroddiadau disgrifiadol a chreadigol.

Darogan y Tywydd

  • Medi 10, 2012 - cerysjones

Y mae gwaith Swyddfa Dywydd y DG yn sicrhau’r rhagolygon tywydd cywiraf posib, ac mae datblygiadau technolegol yn golygu ein bod yn medru gweld y rhagolygon hyn ar unrhyw adeg o’r dydd neu nos. Ond cyn sefydliad y Swyddfa Dywydd (1854, pan sefydlwyd adran arbrofol o’r llywodraeth a ddatblygodd i fod y ‘Met. Office) a rhagolygon tywydd yn y wasg (1af o Awst 1861 oedd y rhifyn cyntaf o The Times i gynnwys rhagolwg tywydd), beth oedd pobl yn ei wneud? Sut oedden nhw’n paratoi a chynllunio ar gyfer tywydd yfory?

Y mae Almanaciau’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth a chymorth i’w darllenwyr ar bopeth sy’n ymwneud â meteoroleg. O fewn y cloriau ceir rhestrau o arwyddion meteorolegol; arwyddion o beth sydd i ddod. Ceir rhestrau yn y tudalennau isod o dan y penawdau ‘Arwyddion o Dywydd Teg’, ‘Arwyddion o Wlaw’ ac ‘Arwyddion o Wynt a Thymhestl’. Mae rhai’n gyfarwydd; “4. Pan fyddo’r Haul yn machlud yn goch, tywydd teg neu rew” sy’n debyg i’r dywediad Saesneg poblogaidd ‘Red Sky at Night, Shepherd’s Delight’. Nid yw eraill mor adnabyddus; mae “14. Piod yn ‘sgrechen.”, “23. Clêr a gwybed yn flinedig” a “27. […] Gwyniau yn aelodau hen bobl [… a] Cyrn ar fysedd traed […]” yn arwyddion o law. Y mae arwyddion o dywydd tymhestlog yn cynnwys “8. Tân yn llosgi’n dywyll yn dywyll ac yn hisian”, “9. Cigfrain yn clapio eu hadenydd” a “11. Moch yn llefain yn fwy nag arferol”.

Arwyddion Tywydd o Almanac John Harries (Caerfyrddin) am y flwyddyn 1791, o Lyfrgell Genedlaethol Cymru (gweler yr almanac lawn ar: http://www.flickr.com/photos/snowsofyesteryear/sets/72157631001153272/with/7752526604/).

Hyd yn oed â gallu technolegol ym maes rhagolygon tywydd, ydyn ni dal i ddefnyddio ‘arwyddion’ am y tywydd? Ydyn ni dal yn rhoi cipolwg ar ba mor llachar yw’r sêr (arwydd o rew), pa mor gyflym mae’r cymylau’n symud (arwydd o wynt) neu pa mor brysur yw’r corynod (arwydd o law)? Yn yr un modd, ai’r dyn tywydd sy’n dweud wrthym am gyfnod o dywydd eithafol, neu ydyn ni dal i ddefnyddio arwyddion? Mae’n siwr ein bod ni gyd yn gwybod am wlybaniaeth eithafol haf 2012 cyn i’r Swyddfa Dywydd ei gyhoeddi’n swyddogol  (http://www.metoffice.gov.uk/news/releases/archive/2012/second-wettest-summer)… ond sut? Beth oedd yr arwyddion?

Fe sylwais i ar sut roedd fy ngot law yn dod gyda mi i bob man, y ffaith ‘mod i braidd wedi gorfod rhoi dŵr i’r ardd, a bod gymaint o ddigwyddiadau’r haf wedi gorfod cael eu gohirio – o rasys ceffylau i sioeau amaethyddol. Gwnes i ddim, fodd bynnag, sylwi ar unrhyw arwyddion o law Almanac 1791!

Sut oeddech chi‘n gwybod eich bod yn profi’r haf gwlypaf ers 1912?

 

Almanaciau Cymreig: Tywydd Eithafol ymysg Digwyddiadau Hynod mewn Hanes

  • Awst 14, 2012 - cerysjones

Dyma ond un o’r tudalennau sydd wedi’u digido gan brosiect Eira Ddoe er mwyn ymchwilio tywydd eithafol yng Nghymru. Gweler y casgliad lawn, sy’n cynnwys almanaciau, dyddiaduron a llawysgrifau eraill, ar Flickr (cliciwch ar dde eich sgrin).

John Harris 1790 Almanac Carmarthen/Caerfyrddin (National Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Daw’r dudalen hon o almanac am y flwyddyn 1790 wedi’i greu gan John Harris a’i argraffu yng Nghaerfyrddin (o archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Y digwyddiad hynod cyntaf yw bod y Byd wedi’i greu 5894 yn ôl; o’r flwyddyn argraffu (1790OC) dynoda hyn cread y Byd yn y flwyddyn 4104CC. Mae’r digwyddiadau sy’n dilyn yn cynnwys sawl digwyddiad ym myd natur:

4141 o flynyddoedd ers y dilyw [h.y. llifogydd] [=2351CC]

170 o flynyddoedd ers i ddaeargryn fod ym Mhrydain [=1620OC]

104 o flynyddoedd ers seren gynffonog fawr ac ofnadwy [=1686OC]

75 o flynyddoedd er pan fu tywyllwch mawr ar yr haul [h.y. diffyg ar yr haul] am 9 y bore [=1715OC]

74 o flynyddoedd ers pan ddechreuodd y goleuni gogleddol [=1716OC]

71 o flynyddoedd ers pan fu goleuni megis post [colofn] o dân [=1719OC]

51 o flynyddoedd ers pan fu rhew mawr, yr hwn a ddechreuodd Rhagfyr 24 [=1739OC]

35 o flynyddoedd ers pan ddinistriwyd Lisbon gan ddaeargryn [=1755OC]

21 o flynyddoedd ers pan ymddangosodd seren gynffonog fawr yn y bore [=1769OC]

15 o flynyddoedd ers pan fu daeargryn yn Lloegr a Chymru [=1775OC]

Dengys y digwyddiadau mewn ffont bras cyfnodau o lawiad trwm a thymheredd isel, sydd yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau meteorolegol. Fodd bynnag, diffiniad ‘meteoroleg’ yw:

1. The branch of science that deals with atmospheric phenomena and processes, esp. with a view to forecasting the weather.

2. The character of a particular region as regards weather, atmospheric phenomena, etc. (OED, http://www.oed.com/view/Entry/117496?redirectedFrom=meteorology#footerWrapper).

Defnyddiwyd y diffiniad llawn yn hanesyddol, sydd ychydig yn wahanol i’r defnydd cyfoes o’r term. O ganlyniad, buasai pob hynodyn atmosfferig ar y rhestr – y sêr cynffonog yn 1686OC ac 1769OC, diffyg ar yr haul 1715OC, aurora borealis 1716OC a cholofn o dân 1719OC – wedi eu hystyried yn ‘ddigwyddiadau meteorolegol’ pan argraffwyd yr Almanac hwn.