Rhyngweithio Cymunedol

Y mae gweithio â'r cyhoedd yn rhan allweddol o'r prosiect hwn, felly dyma ofyn y chi yn garedig i gyfrannu eich atgofion o dywydd eithafol yng Nghymru – mewn geiriau neu â ffotograffau. Ydych chi, eich ffrindiau neu'ch teulu'n cofio gaeaf hynod galed neu fwyn? Haf cynnes, gwlyb neu sych? Cynhaeaf siomedig neu ffrwythlon? Mellt a tharanau bythgofiadwy? Llifogydd, sychder, storm neu gorwynt? Cofiwch gynnwys pryd y digwyddodd hyn ac am ba hyd. Pam roedd yn arbennig o dda neu wael i chi, eich teulu neu'ch cymuned? Beth wnaethoch chi yn ystod y cyfnod hwn i ymdopi neu fwynhau'r tywydd?

Rhannwch eich atgofion a'ch lluniau yma wrth fewngofnodi gan ddefnyddio'r ffurflen hon.

Ionawr 2013: Eira yn Nhalgarreg

  • Ionawr 24, 2013 - cerysjones

Bu prosiect Eira Ddoe yn y niwl am rai dyddiau gan i eira a gwyntoedd cryfion greu lluwchfeydd ac amodau gyrru gwael. Un o’r ardaloedd lle y bu eira oedd Talgarreg, Llandysul. Er i’r rhagolygon tywydd fod yn weddol gywir, daeth cwymp sydyn o eira ar nos Lun 14eg Ionawr ac Iau 17eg yn dipyn o sioc. Fodd bynnag, cwympodd yr eira trymaf ar ddydd Gwener 18fed, a bu gwyntoedd cryfion hefyd. Glynodd yr eira ar y ffenestri gan ei gwneud hi’n anodd gweld tu allan ac i deimlo’n ynysig iawn. Ar fferm Clettwr, chwythwyd eira i mewn i’r siediau wyna; o dan y drysau a thrwy dyllau yn y wal. Erbyn iddi nosi fe orchuddiwyd l^on y fferm, sy’n dringo ochr dyffryn Clettwr, gan luwchfeydd; rhai oedd yn ormod o faint i’r 4×4 eu trechu (gweler y llun isod am luwch ar ochr y l^on fferm). Caewyd yr hewlydd maint B cyfagos o Synod Inn i Lanybydder ac o Synod Inn i Ffostrasol yn ogystal, tan i swch eira (snowplough) eu clirio’r bore wedyn.

Ar ddydd Iau 24ain Ionawr, wrth i’r blog hwn gael ei ysgrifennu, mae’r hewlydd maint A a B ar agor ac yn glir, er bod dal angen gofal wrth yrru ar hyd yr heol maint C a’r l^on fferm i lawr i Clettwr. Gadewir y car ar ddiwedd y l^on fferm; er y byddai modd ei yrru i lawr y llethr, mae’n bosib na ddaw n^ol lan! O ganlyniad, mae’n rhaid cerdded y daith i ac o’r car ddwywaith y dydd mewn esgidiau cerdded a dillad cynnes. Er ymddengys hyn yn anghyfleustra, rhoddir atgofion o Clettwr yn ystod gaeaf 1962/63 y sefyllfa hon yn ei chyd-destun (darllenwch ‘Arbenigwr rhif 2’ yma). Nodwch nad yw Clettwr yn godro mwyach, felly nid yw gwastraffu llaeth yn broblem.

Ddoe (Mercher 23ain Ionawr), bu’n bwrw eira’n drwm dros dde-orllewin Cymru ac, er y caewyd ysgol Dyffryn Teifi (Llandysul) ac y mae’n parhau i fod ar gau heddiw (24/1/2013), ni ychwanegwyd gormod o drwch i’r eira yn Nhalgarreg. Ni rybuddiwy yr ardal am eira ac, fel y bu cyflwynwyr tywydd y teledu a’r radio yn ein hatgoffa trwy gydol ddoe, “y mae eira’n beth anodd iawn i’w ragweld”.

 

Eira 1947 ger Corwen: cerdded ar ben yr Austin 7

  • Hydref 29, 2012 - cerysjones

Cyfraniad drwy lythyr:

 

Cofiaf aeaf 1947 yn dda iawn pan oeddwn yn byw ym Mryneglwys, ger Corwen ac yn methu â mynd i’r ysgol uwchradd yn Rhuthun am 8 wythnos oherwydd trwch yr eira.

 

Yn y dyddiau hynny, roedd Bryneglwys a Bwlchgwyn wastad yn cael sylw yn y newyddion am fod yn ddau le cyntaf i gael eu hynysu gan eira a rhew, ac felly y bu ym 1940 a 1947. Roedd fy nhad wedi bod i rywle yn ei gar bach Austin 7 yn ystod diwrnod cyntaf yr eira mawr, a method a’i yrru nôl i fyny’r allt i’n tŷ ni ac felly bu raid iddo ei adael yng ngwaelod y ffordd, ac yn y fan honno y bu am y ddau fis y parhaodd yr heth. Cofiaf i ni, blant, unwaith yr oedd y lluwchfeydd wedi rhewi’n gorn, gael caniatad ‘nhad i gerdded i waelod y ffordd (tua chwarter milltir) a sylweddoli ein bod yn cerdded uwchben y car bach ac ar ben y gwrychoedd heb unrhyw beryg y byddem yn suddo gan mor galed oedd y rhew. Roedd yr un peth yn wir am y llyn hwyaid wrth y tŷ lle cawsom lawer o hwyl yn sglefrio.

 

Ond ‘doedd yr holl brofiad yn fawr o hwyl i mam, druan, a oedd yn gorfod coginio ar dân agored yn yr ystafell fwyta yn lle’r popty arferol yn y gegin am fod y pibellau dŵr cysylltiedig wedi rhewi, a ‘nhad yn gorfod cario dŵr o’r nant gyfagos, nid yn unig i’n teulu ni o chwech ond hefyd i’r gwartheg a’r moch ar y fferm. Cofiaf ein bod wedi methu â gwneud menyn yn y fuddai fawr oherwydd y rhewi cyson, ac ar waethaf ymdrechion pob un ohonom i droi’r fuddai am oriau.

 

Bu ‘nhad, ynghŷd â sawl dyn arall o’r pentref, yn cerdded i Gorwen, saith milltir i ffwrdd, sawl gwaith i brynu bara i bawb oedd ei angen; bu’r eira mawr yn fodd i gymuned gyfan glosio at ei gilydd a gwerthfawrogi ymdrech a chymwynasgarwch y dynion.

Eira Hudol 1962/63

  • Hydref 8, 2012 - cerysjones

Wedi’i dderbyn drwy e-bost:

The extreme weather I remember was in, I think, 1962. I was living in Pembrokeshire, on the coast where we rarely had snow that stuck. But this particular Winter  I woke to find everything covered in depths of snow. Our house was situated on a back lane in the village and the snow was level with the hedgerows. It has been funnelled in with the wind. I remember walking or rather scrambling to the Post office sinking up to my shoulders in snow. It was magical…No school for a week and our lane wasn’t passable for vehicles for quite a few weeks after that.

 

Darllenwch ragor o atgofion am aeaf 1962/63 o Geredigion yma ac o Sir Gâr yma.

Gwefannau defnyddiol eraill ar gyfer Tywydd Eithafol

  • Medi 14, 2012 - cerysjones

Yn ogystal â chyfraniadau i’r blog, caiff prosiect Eira Ddoe ei ysbrydoli gan wefannau eraill gall fod o ddiddordeb i bawb sy’n ymddiddori yn nhywydd eithafol:

 

Tywyddiadur Llen Natur, lle gellir chwilio am gofnodion o’r tywydd yn ôl dyddiad.

Y Dyffryn Maes y Gad i Lles y Wlad, sef stori ddigidol gan Bryn Hughes, ffermwr o ddyffryn Aeron (Ceredigion), sy’n cynnwys ei atgofion am yr eira yn 1947.

Ffilm liw o Eira Mawr 1947 yn Archif Sgrin a Sain Cymru, sy’n dangos tractor/tractor eira a gwirfoddolwyr yn clirio’r eira yn Llanwddyn. Fe wnaeth hi fwrw eira yn Llanwddyn am gyfnod o 9 wythnos. Gwelir hefyd eira yn Drenewydd. Y ffotograffydd oedd Geoff Charles.

Lluniau Casgliad y Werin Cymru o eira, gan gynnwys gaeafau 1962/63 ac 1981/82.

Ffilm British Pathe o ddifrod storm yn Aberystwyth yn 1938.

Ffotograffiaeth gan John Mason ofAberystwyth o gymylau duon, glaw a llifogydd, tywydd gaeafol, a golygfeydd amryliw o’r awyr.

 

O du allan i Gymru, mae’r canlynol o ddiddordeb mawr:

The Weather Memory bank, sydd â chlipiau fideo o bobl yn Reading yn ateb cwestiynau penodol am y tywydd.

Flood Memories blog i‘r Hafren, sy’n bennaf yn son am lifogydd Tewkesbury floods yn 2007.

The British Hydrological Society’s Chronology of British Hydrological Events. Chwiliwch y gronfa ddata yn ôl dyddiad ac/neu dalgylch afon yn y Deyrnas Gyfunol.

 

Os yw’r lluniau, fideos neu gofnodion ysgrifenedig hyn yn canu cloch, beth am rannu eich atgofion chwithau o dywydd eithafol tebyg yma nawr gan ddefnyddio’n ffurflen gyfrannu.

Atgof plentyn 1962-63

  • Medi 10, 2012 - guest

Car llusg pren yn anrheg Nadolig, ac eira y diwrnod wedyn. Ryw 4 milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin, lle roedd yr heolydd cul rhwng banciau uchel a wedyn perthi ar ben y banciau. Wrth i’r eira lluwchio fe lanwyd yr heolydd bron i ben y perthi. Roedd y car llusg yn mynd yn bert i lawr tyle serth, a dim perygl o gar neu dractor yn dod i gwrdd â ti.
Sawl wythnos wedyn, pan oedd yr heol fawr wedi’i chlirio, fe gerddais i (9 oed) gyda mam a’r car llusg i fewn i’r dre i brynu bwyd. Erbyn hyn roedd y rhewgell yn wag. Cerdded i lawr yn iawn, ond tynnu’r peth yn ôl, gyda’r holl bwysau newydd, a tuag at lan bob cam, yn araf iawn.
Cathi McGill

Gaeaf caled 1962/63

  • Awst 31, 2012 - cerysjones

Canodd y ffôn symudol a’r geiriau “Unknown number” yn fflachio. Gall fod yn werthwr yswiriant, gall bod yn berson yn gofyn “had I been mis-sold PPI?”, ond na – ymchwilydd o Radio Cymru oedd ar ben arall y ffôn. Gofynnodd y llais caredig os byddem yn fodlon siarad ar raglen Nia am dywydd 1962. Cytunais yn syth; rwyf wedi dysgu i beidio â gwrthod cynigion o’r wasg.

Ond, beth oeddwn i’n ei wybod am dywydd 1962 pan roedd Mam ond wedi’i geni blwyddyn ynghynt?! Roedden nhw am glywed safbwynt Cymreig ac roedd y we yn dda i ddim. Roedd gen i ond atgof Jenny Ogwen fel man cychwyn. Dyma fy nhro i i wneud galwadau ffôn… i ofyn yr arbenigwyr.

Arbenigwr rhif 1: Tad-cu. Oed yn 1962: 26

Roedd yn cofio iddi ddechrau bwrw eira yn Rhagfyr 1962 ac aros tan ganol mis Mawrth 1963. Gan iddo fyw yn Llanybydder (Sir Gaerfyrddin) ar y pryd, sy’n bentref go fawr, cofiodd pa mor anodd oedd hi i deithio; roedd y bysys a’r ceir “ar stop”. Roedd e hefyd yn gweithio ‘yn y forestry’, ac yn cofio bod mor oer fel y bu rhaid iddo wisgo dwy got. Daeth hyn yn bach o sioc wedi haf cynnes 1962! Y flwyddyn ganlynol, gadawodd y ‘forestry’ a mynd i weithio i fasnachwr coed. ‘Sdim amau bod gaeaf 1962/63 wedi bod yn rhan o’i benderfyniad i newid ei broffesiwn.

 

Arbenigwr rhif 2: Tad-yng-nghyfraith. Oed yn 1962: 28

Mae fy nhad-yng-nghyfraith yn ffarmwr; wedi ei eni a’i fagu yn Nhalgarreg (Ceredigion) ar waelodion dyffryn Clettwr. Gaeaf 1962/63 yw’r gwaethaf mae’n ei gofio. Parhaodd o ŵyl San Steffan 1962 i ddechrau mis Mawrth. “Roedd yn bwrw sgiten [o eira] a’n lluwchio fel o’dd e’n dod [h.y. wrth gwympo]. Roedd hefyd rhew pob dydd a gwynt oer o’r Dwyrain. O ganlyniad, rhewodd eu cyflenwad dŵr. Roedd hi mor oer fel bod y beipen oedd yn mynd â dŵr o dan ddaear i’r tai mas wedi rhewi. Roedd hyn yn broblem ddifrifol i ffarmwr gan fod ddim dŵr i roi i’r da [gwartheg].

Doedd ddim modd iddyn nhw ‘chwaith i deithio ar lôn y ffarm; problem arall i ffarmwr â da godro achos ni allant fynd â’r llaeth i’r stand laeth i gwrdd â’r tancer yn ddyddiol. Golyga hyn golled ariannol ac – yn waeth i Gardi – gwastraff llaeth. Gan nad oedd modd gyrru i fyny dyffryn Clettwr ar yr hewl, yr unig opsiwn oedd mynd ar ei draws. Rhoesant y stenau llaeth [churns] yn y bocs ar gefn y tractor a theithio ar draws y dyffryn; ar draws caeau tuag at bentref Talgarreg. Yno, cwrddasant â’r tancer laeth i gasglu’r stenau yn gyfnewid am stenau gwag, yn barod go gyfer â llaeth yfory. Ond yn gyntaf, roedd ganddynt swydd arall; llanwasant y stenau â dŵr o’r pentref a dychwelyd i’r ffarm i roi dŵr i’r creaduriaid. Gwnaethant hyn bob dydd am tua deng wythnos tan, o’r diwedd, ar y 10fed o Fawrth 1963, roedd modd iddynt fynd â’r stenau i fyny lôn y ffarm i’r stand laeth unwaith yn rhagor, y tro cyntaf ers gŵyl San Steffan 1962.

‘Roedd hi’n aeaf hir, oer. A doedd ganddyn nhw ddim ‘cab’ ar y tractor i’w hamddiffyn rhag yr elfennau. Ond mae e’n cofio mai, rhyw ffordd, y diwrnod oeraf oedd y diwrnod gwnaeth hi ddechrau dadlaith [dadmer] a chawod fach o law.

 

Roedd yr arbenigwyr wedi dweud eu dweud, a cheisiais wneud gymaint o gyfiawnder â phosib i’w hatgofion yn ystod y cyfweliad radio (fe’i darlledwyr ar BBC Radio Cymru ar Ŵyl y Banc Awst (27ain), 2012).

Cerys, Cynorthwyydd Ymchwil, Prosiect Eira Ddoe.

Tywydd Eithafol Jenny Ogwen

  • Awst 31, 2012 - cerysjones

Yn ystod cyfnod y prosiect yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandw yn ddiweddar, sgwrsiwyd â’r cyflwynwraig tywydd enwog Jenny Ogwen. Roedd hi yno i hyrwyddo ei hunangofiant ‘Glaw a Hindda’ . Gofynwyd iddi pa gyfnodau o dywydd eithafol oedd hi’n eu cofio yn ystod ei gyrfa, ac ei hatebion oedd:

“1963 – Eira Mowr – Llundain a dros Brydain [roedd hi’n gweithio yn Llundain ar y pryd]

1976 – Haf tanboeth – drought ym mhobman.”

Beth ydych chi’n ei gofio o’r cyfnodau hyn?

Llifogydd Caerdydd 1979

  • Awst 7, 2012 - cerysjones

Cyfraniad o’r Eisteddfod:

I remember watching the water levels coming across Sophia Gardens – it was like a black mass slowly coming across the fields. The water came up Cathedral Road. We were protected by the houses of Plasturton Avenue and our house wasn’t flooded. But the water came to the front garden; it was literally lapping over the front step. Me and my friends were waist deep walking down Cathedral Road helping people get stuff out of their houses. I was 15 years old.

I remember the sludge and the smell after the water levels dropped. And everyone was so upset – especially the ground floor flats in Cathedral Road. A man was trying to get his guitar to safety – I think it was ruined.

From a kid’s point of view, we had fantastic fun. But the adults were horrified and anxious.

Dydy hafau ‘nawr ddim fel y buon nhw…

  • Awst 6, 2012 - cerysjones

Dwy ddynes o ardal Llanelli yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod cawad drom o law (crynodeb o’r sgwrs):

Pan oedden nhw’n blant yn ystod yr 1950au, roedd hafau’n teimlo fel eu bod nhw’n para am byth. Dy’n ni ddim yn cael ‘na ‘nawr. 1976 oedd yr haf iawn ddiweddaf; roedd popeth yn sych. Boddwyd pentref, ger Rhandirmwyn, ond yn 1976 roedd y llynnoedd i gyd yn sychu ac roedd modd gweld yr hen bentref.

Rhagfyr 2010: Eira yn Sir Gaerfyrddin; a strange, sad time

  • Awst 2, 2012 - cerysjones

Wedi ei dderbyn drwy sylw:

My mother in law died at 00.20 on the morning of December 17th 2010 in Tycroes, Carmarthenshire. The doctor couldn’t get to the bungalow to certify her death for several hours, neither could the District Nurses. The undertaker couldn’t get to us until 05.00, using a 4 wheel drive vehicle. Her funeral was a week later on Christmas Eve and again, only 4 wheeled drives could get to us, so no service in the house, no limos, many friends and family struggled to get to the chapel. It was a strange, sad time. The snow added to the feeling of a surreal experience. The silence that night was eerie, almost deafening.